Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 16 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:02, 16 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae adroddiad annibynnol heddiw ar iechyd a gofal cymdeithasol yn amlygu pwysigrwydd llesiant staff ac yn dweud y dylai fod pwyslais pendant ar ymgysylltiad a llesiant staff. Nawr, mae pob plaid wleidyddol yn canmol staff y GIG yn rheolaidd, ac mae hynny'n gwbl briodol. Mae'n haeddiannol, oherwydd hebddyn nhw ni fyddai'r GIG yn ddim. A ydych chi'n meddwl bod digon yn cael ei wneud i gynorthwyo llesiant staff y GIG?