Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 16 Ionawr 2018.
Diolch i chi am hynna, Prif Weinidog. Byddwn yn eich annog chi hefyd i ofyn i'ch Ysgrifennydd dros iechyd asesu llesiant staff yn y GIG, gan fod y llythyr a dderbyniais i yn sôn y bu'n rhaid dod â chwnselwyr o elusen i mewn i siarad gyda staff rheoli ambiwlansys, cymaint yw lefel y straen hwnnw. Os yw hynny'n wir, mae hon yn sefyllfa wirioneddol syfrdanol ac mae'n argyfwng yn ein gwasanaethau cyhoeddus. A allwch chi gadarnhau bod cwnsela wedi cael ei gynnig i staff y GIG? Ac o ran adnoddau ambiwlans, a allwch chi ein sicrhau ni y bydd blaenoriaethu yn destun adolygiad ac nad yw ymateb i alwadau coch yn rhoi unrhyw un sydd wedi ei gategoreiddio fel galwad ambr mewn perygl o farwolaeth neu anaf pellach?