Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 16 Ionawr 2018.
Prif Weinidog, yn anffodus rydym ni'n gweld y canlyniadau pan fydd ein byrddau iechyd a'n hawdurdodau lleol yn methu â gweithio gyda'i gilydd yn effeithiol: cleifion yn cael eu gorfodi i aros yn yr ysbyty yn hirach na'r angen, neu gleifion yn cael eu rhyddhau heb fod pecyn gofal ar waith. Prif Weinidog, mae nifer o gleifion hŷn wedi cysylltu â mi, a adawyd i ofalu amdanynt eu hunain ar ôl cael eu rhyddhau o'r ysbyty. Beth mae eich Llywodraeth chi yn mynd i'w wneud i sicrhau bod gan bawb sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty ofal priodol ar waith yn ystod y cyfnod pan fyddant yn adfer?