Rhaglen Fuddsoddi Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 16 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:40, 16 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae awdurdod lleol Merthyr Tudful wedi clustnodi £19 miliwn ar gyfer band A y Rhaglen i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yn ystod y pum mlynedd hyd at 2019. Mae gan awdurdod Caerffili, yr awdurdod y mae hi, wrth gwrs, yn cynrychioli rhan ohono, £56.5 miliwn, ac mae dros £8 miliwn ohono wedi'i glustnodi ar gyfer Rhymni. Bwriedir buddsoddi mwy ar ôl 2019 pan fydd band B yn dechrau.