Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 16 Ionawr 2018.
Nid ydyw wedi bod yn ddigonol. Mi oedd yna ymgyrch dros y tair blynedd lan at y flwyddyn nesaf er mwyn hybu defnydd o fand eang cyflym iawn, ond rydym yn ailystyried ym mha ffordd y gallwn ni wella’r cyfathrebu er mwyn sicrhau bod pobl sydd â’r gwasanaeth yn gallu ei dderbyn ac yn gwybod ei fod e yna. Wrth gwrs, mae’n un peth i sicrhau bod y strwythur yna, mae’n beth arall i sicrhau bod pobl yn gwybod eu bod nhw’n gallu ei ddefnyddio. So, mae hwn yn rhywbeth sydd wedi cael ei ddweud wrthym hefyd, ac rydym yn moyn ailystyried y ffordd rydym yn cyfathrebu er mwyn sicrhau bod pobl yn gwybod.