Sicrwydd Ariannol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 16 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:27, 16 Ionawr 2018

—a ddim, wrth gwrs, mewn sefyllfa lle maen nhw'n gorfod benthyg arian oddi wrth bobl sy'n mynd i tsiarjo lot fawr o arian iddyn nhw i fenthyg yr arian hwnnw?

Mae yna mwy o botensial, rwy'n credu, ynglŷn ag undebau credyd. Mae'n wir i ddweud, yn Iwerddon—er eu bod wedi bod yn Iwerddon llawer yn hirach nag yng Nghymru—fod undebau credyd yn gallu benthyg arian mawr, o gymharu ag undebau credyd Cymru. Mae pobl yn cael morgeisi, er enghraifft, gan undebau credyd yn Iwerddon. Ynglŷn â chael rhwydwaith o undebau credyd, mae hynny'n rhywbeth rwy'n credu sy'n werth ei ystyried. Byddaf yn sicrhau bod y Gweinidog yn cyfathrebu gyda hi er mwyn sicrhau ym mha ffordd y gallwn ni gryfhau presenoldeb undebau credyd yng nghymunedau Cymru, o gofio'r ffaith bod banciau yn gadael siẁd gymaint o gymunedau, er mwyn rhoi cyfle i bobl reoli eu bywydau ariannol mewn ffordd sy'n dda iddyn nhw.FootnoteLink