Part of the debate – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 16 Ionawr 2018.
Diolch i chi am y ddau cwestiwn yna. O ran yr un cyntaf, yn sicr, byddaf yn siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet ac yn sicrhau y bydd ef yn cysylltu â chi ac yn rhoi llinell amser i chi ar gyfer hynny. Mae'r Gweinidog yma i glywed eich sylwadau ac rwy'n siŵr y bydd hi'n gallu dweud wrthych chi cyn gynted â phosibl pryd y bydd hi'n cyflwyno'r datganiad hwnnw. Nid yw hynny yn yr amserlen busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf.