Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 16 Ionawr 2018.
Roedd arweinydd y tŷ yn hael iawn yr wythnos diwethaf wrth ateb ceisiadau gennyf i. Gobeithio y bydd hi yr un mor hael yr wythnos yma. A gaf i ddechrau gan groesawu'r ffaith bod datganiad ysgrifenedig gan y Prif Weinidog y bore yma ynglŷn â Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn dweud, oni bai bod rhywbeth yn digwydd erbyn diwedd y mis, ei bod hi'n fwriad gan y Llywodraeth gyflwyno ei Bil parhad ei hun? Rwy'n croesawu hynny, ond rwy'n gofyn i arweinydd y tŷ jest i fynd dau gam ymhellach heddiw, os oes modd. Fe fydd fy nghydweithiwr, Steffan Lewis, yma yfory i gynnig ei Fil parhad ei hun, yn y slot y mae ef wedi'i gael fel Aelod mainc gefn. A wnaiff ysgrifennydd y tŷ, fel prif chwip, ddatgan y bydd y Llywodraeth yn cefnogi, mewn egwyddor, gais Steffan Lewis yfory? Mae’n siŵr y byddai’n licio clywed hynny heddiw, os caiff e. Yn ail, a fyddai nawr, felly, yn gam positif i gyhoeddi’r Bil ar ffurf ddrafft, fel bod modd inni i gyd weld beth sydd gan y Llywodraeth mewn golwg? Nid ei gyflwyno yn ffurfiol, ond ar ffurf ddrafft, inni weld hynny a’i ddefnyddio fel ffordd o grisialu’r angen i gael y gwelliannau y mae’r Llywodraeth yn dymuno eu gweld yn Nhŷ’r Arglwyddi erbyn hyn.
Yr ail beth y byddwn i’n hoffi, yn benodol, ei glywed yw: a oes modd cael datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd yn egluro’r sefyllfa yng Nghaerdydd ac yn enwedig Nant Lleucu a Pharc y Rhath? Nid yw hi yn fy rhanbarth i, ond mae sawl un wedi cysylltu â fi dros yr wythnosau diwethaf yn poeni yn arw am y ffordd y mae’r ymgynghoriad wedi digwydd yn ardal Parc y Rhath a’r gwaith sydd nawr yn bwrw ymlaen yn y fan honno. Rwy’n poeni bod rhai o’r ffigurau a ddefnyddiwyd yn yr ymgynghoriad yn ddiffygiol, ac rwyf hefyd eisiau gofyn a oes yna wersi i’w dysgu fan hyn ar lefel genedlaethol. Rwy’n meddwl y byddai’n braf iawn cael datganiad yn egluro beth sydd wedi digwydd, beth yw gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru a’r cyngor a dderbyniodd y Llywodraeth, a pham y mae’r gwaith wedi gorfod bwrw ymlaen yn y ffordd y mae. Mae'n sicr wedi bod yn loes calon i nifer o bobl yn yr ardal honno.