Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 16 Ionawr 2018.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig cynigion cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 ymlaen, fel y gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 19 Rhagfyr. Hoffwn ddiolch yn arbennig i aelodau'r Pwyllgor Cyllid, a'r Cadeirydd, Simon Thomas, am eu gwaith gofalus wrth graffu ar y gyllideb hon. Dyma'r tro cyntaf ers sawl canrif i ni yng Nghymru ysgwyddo cyfrifoldeb dros godi cyfran o'r arian rydym ni'n ei wario ar wasanaethau cyhoeddus. Roeddwn i'n falch iawn o allu ymateb ddoe i adroddiad y pwyllgor ar y gyllideb ddrafft, a gallu derbyn bron pob un o'u hargymhellion yn llwyr.
Er gwaethaf yr heriau a gododd yn sgil y gwrthdaro rhwng amserlen ein cyllideb ni a chyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig, rwy'n credu bod y prosesau newydd a gafodd eu cytuno a'u dilyn eleni wedi bod yn llwyddiannus ac wedi bod yn addas ar gyfer craffu ar ein defnydd o'n cyfrifoldebau ariannol newydd. Rwy'n edrych ymlaen at gael gweithio gyda'r pwyllgor i weld sut y gellid gwella'r prosesau hyn ymhellach yn y dyfodol.
A allaf ddiolch hefyd i'r pwyllgorau eraill hynny sydd wedi cyhoeddi adroddiadau craffu ar y gyllideb yn eu meysydd eu hunain? Hoffwn i ddiolch yn swyddogol i Steffan Lewis am roi ei amser i gyfarfod ac ystyried y gyllideb derfynol, ac i Adam Price am barhau â'r trafodaethau hynny yn fwy diweddar.
Dirprwy Lywydd, mae'r cyd-destun ehangach ar gyfer y gyllideb yn gwbl hysbys. Wrth i economïau ardal yr ewro a'r Unol Daleithiau symud yn ôl tuag at lefelau twf hanesyddol, mae economi'r Deyrnas Unedig yn parhau i gael ei niweidio gan bolisïau cyni ffôl—polisïau sydd wedi methu. Wrth i eraill dyfu, mae rhagolygon diweddaraf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yma yn dangos economi sy'n arafu, nid yn unig y flwyddyn nesaf a'r flwyddyn wedyn, ond y tu hwnt i hynny i'r dyfodol: llai o dwf mewn cynhyrchiant, llai o fuddsoddiad mewn busnesau, llai o dwf mewn cynnyrch domestig gros, llai o dwf mewn cyflogau, a llai o dderbyniadau treth. Y Canghellor, Philip Hammond ei hun, a ddywedodd hynny yn ei araith ar y gyllideb ar 22 Tachwedd.