Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 16 Ionawr 2018.
Diolch i chi am ildio. Croesawaf yr arian sydd wedi dod i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU, fel y gwnaethoch chi eich hun yn eich datganiad ysgrifenedig. Felly, dim ond nodi yr oeddwn i fod eich araith yn rhy negyddol. Rwyf yn hollol o blaid ymdeimlad o gydbwysedd, a gwn y byddwch yn cytuno â hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, ond hefyd rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn cydnabod y gwahaniaeth rhwng cynnydd mewn termau real a chynnydd mewn termau arian parod; maen nhw'n eithaf gwahanol.