Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 16 Ionawr 2018.
A gaf i hefyd groesawu, wrth gwrs, yr hyn a ddywedodd Vikki Howells, Mike Hedges a Jane Hutt, pob un ohonyn nhw'n dangos y ffaith bod yr hyn y mae'r gyllideb hon yn ceisio ei chyflawni yn gwneud gwahaniaeth ym mywydau bob dydd pobl ym mhob rhan o Gymru? Mae'n gyllideb, fel y dywedodd Jane Hutt, ar gyfer blaenoriaethau ac egwyddorion: egwyddorion blaengar y Llywodraeth hon, blaenoriaethau pobl yma yng Nghymru. Mae'n gyllideb y gobeithiaf y bydd y Cynulliad hwn yn ei chymeradwyo'r prynhawn yma.