Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 16 Ionawr 2018.
Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ailadrodd fy niolch i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ei waith? Rydym ni wedi derbyn y pwyntiau rhagoriaeth a wnaed yn ei adroddiad, ac rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor am gydnabod y pwysau amser, nad ydym ni'n gyfrifol amdano, ac sy'n ganlyniad uniongyrchol yr anhwylustod a drafodwyd yn ystod y ddadl ar y gyllideb derfynol o gael digwyddiad cyllidol mawr yn y DU hanner ffordd drwy brosesau llunio ein cyllideb ein hunain.
Wrth gwrs, cytunaf ag Adam Price ei bod hi'n bwysig edrych yn fwy sylfaenol ar y ffordd y caiff arian ei godi yn y rhan hon o'n cyllideb, a bydd yn gwybod, oherwydd rydym ni wedi trafod y mater, bod gwaith ar y gweill o fewn Llywodraeth Cymru i brofi mewn ffordd ymarferol a oes ffyrdd eraill o godi refeniw o'r math hwn yng nghyd-destun Cymru. A yw hynny'n golygu ei bod hi'n iawn pleidleisio i wrthwynebu'r cynnig ger bron y Cynulliad y prynhawn yma? Wel, nid wyf yn credu hynny, wrth gwrs. Fy nghred i yw, os collir y bleidlais, yr effaith yw y bydd busnesau yng Nghymru'r flwyddyn nesaf yn gweld eu biliau'n codi'n unol â mynegai RPI, nid CPI, oherwydd mae'n rhaid inni fwrw ati a llunio'r gyllideb lywodraeth leol. Fyddwn ni ddim yn gallu dod yn ôl â chynigion amgen mewn pryd ar gyfer y flwyddyn nesaf. A fyddwn i'n cael fy nhemtio i ddod yn ôl â chynigion amgen yn cynnwys lluosydd hollt? Ni chredaf y byddwn, Llywydd. Dyna un o fanteision ein system, mae busnesau yn dweud wrthym ni, nad oes ganddyn nhw gymhlethdod lluosyddion hollt, yn arbennig pan fyddai lluosydd hollt yn berthnasol i nifer fach iawn o fusnesau mawr ac na fyddai, rwy'n credu, yn codi'r math o refeniw a fyddai'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i eraill.
Yr hyn y bwriadwn ni ei wneud, a'r hyn yr ydym ni wedi'i gynnig i'r Cynulliad Cenedlaethol, yw nad ydym ni'n rhoi busnesau Cymru mewn sefyllfa wahanol i fusnesau ar draws ein ffin a fydd yn gweld eu biliau yn y maes hwn yn tyfu'n arafach nag y byddent yng Nghymru os nad yw'r bleidlais heddiw yn cael ei chefnogi. Cadarnhaf i Nick Ramsay fod symiau canlyniadol yng nghyllideb yr Hydref a ddaw i Gymru. Byddwn yn defnyddio'r swm canlyniadol hwnnw i dalu am y newid yr ydym ni'n ei gynnig i chi heddiw. Bydd busnesau yng Nghymru sy'n defnyddio'r swm canlyniadol hwnnw £9 miliwn yn well eu byd y flwyddyn nesaf nag a fydden nhw fel arall, a £22 miliwn yn well eu byd y flwyddyn ganlynol nag a fydden nhw fel arall. Gallwch bleidleisio'n symbolaidd os hoffech chi, ond i fusnesau Cymru, pris eich symbol yw bod £30 miliwn yn waeth eu byd nag a fydden nhw fel arall.