Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 16 Ionawr 2018.
Y bleidlais nesaf ar y Gorchymyn Ardrethi Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2018: galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. [Torri ar draws.] A yw'n dangos nawr? [Torri ar draws.] Ydych. Rŷch chi wedi pleidleisio, Dafydd. Ni wnawn ni ddweud ym mha ffordd y pleidleisioch chi. [Chwerthin.] Cau'r bleidlais. O blaid 45, un yn ymatal, wyth yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn.