Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 17 Ionawr 2018.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rydw i'n cario ymlaen gyda phlastig gan ei fod ym mhobman. Jest i gydio yn beth yr oedd David Melding newydd ei ddweud, mae'n wir i ddweud, rydw i'n meddwl, bod dinasyddion a chymunedau o flaen lle y mae rhai gwleidyddion yn y mater yma. Rydw i'n edrych ar gymuned fel Aberporth yn datgan ei hunan i fod yn ddi-blastig, ac yn gweithio ar draws busnesau bach ac ar draws y gymuned i wneud hynny, ac yn croesawu hynny. Wrth gwrs, mae'r Cynulliad yma, ddim ond yr wythnos diwethaf, ar gais Plaid Cymru, wedi pleidleisio dros yr egwyddor o gyflwyno treth ar blastig un defnydd. Mae hwn yn rhywbeth nad ydym ni wedi ei drafod hyd yma. Felly, gan fod y dreth ar blastig un defnydd yn un o'r pedair yr ydych chi'n eu hystyried fel Llywodraeth, a wnewch chi ymrwymo nawr i fynd ar hyd y llwybr hwnnw i ddewis y dreth honno gan fod y cyhoedd, yn amlwg iawn, yn barod iawn i ddelio â threth o'r fath?