Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 17 Ionawr 2018.
Yn y dyfodol, yn ogystal â gwasanaethau cyngor a chymorth, dylem edrych yn gyntaf ar gartrefi mwy clyfar a mwy effeithlon. Rwy'n deall bod safon ansawdd tai Cymru wedi mynnu effeithlonrwydd gwell mewn tai cymdeithasol, ond mae angen i ni edrych ar ddull gweithredu ehangach. Mae'r Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe wedi creu cynllun ar gyfer cartrefi fel gorsafoedd pŵer bach, ac fe gafodd cynlluniau eu cymeradwyo ar gyfer 16 o gartrefi newydd o'r fath yng Nghastell-nedd ym mis Awst y llynedd. Gallai'r cynllun ei hun ostwng biliau cyfleustodau aelwydydd 60 y cant. Tybed pa gynlluniau sydd gennych i amlinellu rhagor o gymorth yn y maes hwn fel y gallwn edrych ar dai mwy arloesol i ostwng y gost ar gyfer y bobl na allant ei fforddio, o bosibl.