Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 17 Ionawr 2018.
Mae'n bwysig iawn fod gan awdurdodau cynllunio lleol eu cyflenwad tir pum mlynedd ac fe gyfeirioch chi at lythyr a anfonais atoch cyn y Nadolig. Y broblem yw, pan nad oes ganddynt y cyflenwad tir pum mlynedd hwnnw, rydym yn gweld datblygwyr yn cyflwyno ceisiadau hapfasnachol iawn. Felly, rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn, ac nid wyf eisiau siarad am gynlluniau penodol oherwydd, yn amlwg, mae ein pwerau yn y broses ddatblygu yn golygu na allaf wneud hynny. Ond rwy'n credu, drwy edrych ar bob achos yn unigol, pan fo Aelod yn ysgrifennu ataf, rwy'n ymateb yn y modd hwnnw. Felly, pe bawn yn ysgrifennu atoch ynglŷn â Chonwy, dyna yw fy safbwynt; pe bawn yn ysgrifennu atoch ynglŷn â Sir y Fflint, dyna fydd fy safbwynt hefyd.