Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:49, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Er mor alluog a chymwys yw'r Gweinidog wrth ateb ei chwestiynau, rwyf eisiau rhoi cyfle i Ysgrifennydd y Cabinet ddisgleirio heddiw hefyd a symud at wahanol feysydd polisi. Rwy'n gwybod bod gennym safbwyntiau gwahanol ar rinweddau bod yn aelod o'r UE yn gyffredinol, ond gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod bod y tu allan i'r polisi amaethyddol cyffredin a'r polisi pysgodfeydd cyffredin a'r farchnad sengl yn rhoi cyfle i ni gael safonau lles anifeiliaid uwch nag a geir yn llawer o ardaloedd yr UE, ac mewn un maes yn arbennig, mewn perthynas â physgota. Ar hyn o bryd, mae'r UE yn caniatáu rhywbeth o'r enw electro-bysgota, sy'n cynnwys rhoi cerrynt trydan drwy'r dŵr—tua 60 amp fel arfer; felly, mae'n eithaf uchel—a stynio pysgod, sydd wedyn yn cael eu llusgo mewn rhwydi i mewn i'r cychod. Ceir nifer o effeithiau anffodus i hyn, yn enwedig i'r pysgod eu hunain, oherwydd mae'r dull hwn yn tueddu i dorri esgyrn cefnau pysgod ac achosi llawer iawn o waedlif mewnol. Mae'r treillio sy'n digwydd ar wely'r môr yn ei amddifadu o'i holl fywyd gwyllt. Ac mae dalfeydd traddodiadol yn cael eu dal yn hyn hefyd ac yn cael eu taflu'n ôl. Os ydym yn adennill cyfrifoldeb polisi dros y maes hwn, byddwn yn gallu gwahardd electro-bysgota. Tybed a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i hynny.