Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 17 Ionawr 2018.
Collais ddechrau'r cyfraniad. Ai gwahoddiad i ddod i ymweld ydoedd? Rwyf bob amser yn hapus i ymweld â gogledd Cymru. Rwy'n ymwybodol iawn o'r hyn a ddigwyddodd ym mis Tachwedd, ychydig cyn y Nadolig, ar draws Ynys Môn, a gwn fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod mewn cysylltiad ag awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru, ond os hoffai'r Aelod ysgrifennu ataf ynglŷn â hynny, fe roddaf sylw i'r mater.