Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 17 Ionawr 2018.
Rydym ar drothwy'r raddfa honno o newid sylfaenol unwaith eto. Ar hyn o bryd, rydym ar gamau cynnar y broses o fabwysiadu chwyldro deallusrwydd artiffisial, ond mae gennym syniad o'r math o newid sydd o'n blaenau. Cefais fy rhyfeddu gan y robot a oedd yn gallu coginio pryd o fwyd drwy fod wedi gweld fideo 'sut i goginio' ar YouTube heb unrhyw fewnbwn dynol uniongyrchol. Cynhaliodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Maryland yr arbrawf hwn ddwy flynedd yn ôl bellach, ac maent yn bwriadu defnyddio dull dysgu dwfn tebyg mewn meysydd fel atgyweirio cyfarpar milwrol. Mae Elon Musk yn Tesla yn credu bod ffatri weithgynhyrchu ceir heb unrhyw weithwyr dynol o fewn cyrraedd. Mae Amazon yn treialu siop heb weithwyr, lle y cewch fil awtomatig wrth i chi adael. Mae'r rhain oll yn newidiadau sylfaenol, yn newid y ffordd rydym yn ymddwyn. Mae Amazon, Airbnb a Uber oll yn dangos pa mor gyflym y gall technoleg newid sut rydym yn siopa, cysgu a symud o A i B. Ac maent yn disodli modelau busnes yn y broses. Ni ddowch o hyd i fanwerthwr mwyaf y byd ar y stryd fawr. Nid yw darparwr llety mwyaf y byd yn berchen ar yr un gwesty. Ac nid yw'r cwmni tacsis mwyaf yn berchen ar yr un car.
Fel y nododd cyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru mewn erthygl yn ddiweddar, yn 2004 roedd gan Blockbuster 84,000 o gyflogeion a refeniw o $6 biliwn. Yn 2016, gwta 12 mlynedd yn ddiweddarach, roedd Netflix yn cyflogi 4,500 o bobl ac yn gwneud $9 biliwn. Fe'i gelwir yn newid aflonyddgar am reswm, ac mae'n esblygu'n gyflym. Yn nyddiau cynnar y rhyngrwyd, roedd yn ymwneud â thasgau fel dod o hyd i wybodaeth neu wrando ar gerddoriaeth, ond erbyn hyn mae technoleg yn symud i ragweld ein hanghenion. Mae'r arbenigwr ar arloesedd, Alec Ross, yn nodi mai peiriannau annibynnol oedd robotiaid yn arfer bod, yn cyflawni tasgau sylfaenol. Bellach maent oll wedi'u cysylltu â'r cwmwl ac maent yn dysgu wrth fynd rhagddynt, nid yn unig o'u profiadau eu hunain, ond am fod modd eu cysylltu â phob peiriant arall tebyg ledled y byd, maent yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn addasu mewn amser real. Mae'n ei alw'n naid gwantwm i ddatblygiad gwybyddol robotiaid.
Mae'n cyfateb i chi a minnau'n gallu manteisio ar ymennydd cyfunol pob bod dynol arall ar y ddaear i wneud penderfyniad ac i wneud hynny ar amrantiad. Dychmygwch gymaint yn fwy clyfar y byddem. Dychmygwch faint yn well y byddem am wneud penderfyniadau. Dyna sy'n digwydd gyda robotiaid. Mae'n rhyfeddol. Ac mae hefyd yn frawychus. I economi fel ein hun ni, ceir nifer anghymesur o swyddi sy'n agored i awtomeiddio, ond nid oes modd atal y newid hwn a rhaid inni ddod i delerau ag ef ac addasu. Ni fuaswn yn cyfnewid fy nghloc larwm digidol am ddihunwr, fwy nag y byddai neb yn troi'r cloc yn ôl i fyd wedi'i oleuo gan olau cannwyll neu bŵer ceffylau. Yn yr un modd hefyd, ni ddylem geisio atal awtomeiddio; dylem ei harneisio.
Mae'r mynwentydd yn llawn o ddynion anhepgor oedd sylw enwog Charles de Gaulle, ac wrth gwrs mae'n rhan o'r natur ddynol i wrthsefyll newid. Nid oes yr un ohonom eisiau wynebu'r ffaith y gallai ein swydd gael ei disodli. Ond mae'n gyfrifoldeb arnom i sicrhau nad ailadroddir y dallineb bwriadol hwn ar lefel genedlaethol. Pan awgrymodd Gerry Holtham yn ddiweddar mewn digwyddiad gan y Sefydliad Materion Cymreig y gallem gael gwared ar feddygon teulu yn gyfan gwbl oherwydd y gallai technoleg wneud eu gwaith drostynt, roedd y proffesiynau am ei waed. Cafodd ei gondemnio gan Gymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol y Meddygon. Fel urdd y crefftwyr yn yr hen ddyddiau a drefnodd i William Lee gael ei alltudio yn 1589 am ei fod wedi dyfeisio peiriant gwau, rhaid inni beidio â gadael eu hawydd i ddiogelu eu crefft ein hatal rhag manteisio ar y newidiadau hyn.
Ystyria beth y gallai'r ddyfais ei wneud i fy ninasyddion tlawd meddai'r Frenhines Elizabeth I wrtho.
Gadewch inni fod yn glir: bydd y bygythiad o golli swyddi yn ddibwys o gymharu â'r hyn fydd yn digwydd os na fanteisiwn ar y posibiliadau. Gwyddom fod yna brinder meddygon a bod y galw ar gynnydd a gwariant cyhoeddus yn gostwng. Gwyddom fod llawer o'r technolegau newydd yn fwy cywir na phobl ac y byddai'n well gan gleifion gael eu diagnosis gan beiriant mewn llawer o achosion. Felly gadewch i ni ryddhau parafeddygon sy'n gorweithio i wneud yr hyn na all neb ond hwy ei wneud a gadewch inni harneisio technoleg. A dyma fy mhle yn y ddadl y prynhawn yma, Ysgrifennydd y Cabinet: os wynebwn faint yr her sydd ar ein gwarthaf, gallwn ddefnyddio technoleg i wella gwasanaethau cyhoeddus, i ryddhau pobl rhag gorfod cyflawni tasgau peryglus neu ailadroddus. Ond os ymataliwn rhag gwneud hynny, mae perygl y bydd anfanteision newid yn dominyddu'r ddadl ac yn creu hinsawdd o ofn.
Wrth inni siarad, mae Atos ac ymgyngoriaethau eraill yn towtio o amgylch cynghorau prin o arian gan gynnig arbed miliynau o bunnoedd drwy gael gwared ar swyddi cyffredin a gosod prosesau awtomataidd yn eu lle. Os caniatawn i'r ymagwedd hon wreiddio, bydd pob sôn am awtomatiaeth yn cael ei weld gan y gweithlu fel ymarfer torri costau, ac ni ddylai gael ei weld felly. Os manteisiwn arno, gallwn ddefnyddio dyfeisiau arbed llafur newydd i ryddhau staff i weithio ar y rheng flaen, er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus. Dyna'r ddadl sydd angen i ni ei chael. Ac mae angen i bob rhan o Lywodraeth baratoi i wynebu sut y gallwn ddefnyddio'r technolegau newydd hyn i helpu i fynd i'r afael â'r problemau y gwyddom ein bod yn eu hwynebu—[Torri ar draws.] Ydw, rwy'n hapus i ildio—