Part of the debate – Senedd Cymru am 6:04 pm ar 17 Ionawr 2018.
Yn fyr iawn, a gaf fi ei annog, yn unol ag ymyriad David Melding, i edrych yn benodol ar y syniad hwn o greu'r hyn y mae nifer o Lywodraethau—maent yn eu galw'n i-dimau, sef timau trawslywodraethol o bobl ymroddedig i edrych ar arloesedd mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae hwn yn faes lle y gallai Cymru arwain. Mae gennym sector cyhoeddus sy'n fawr o'i gymharu â'n heconomi yn ei chyfanrwydd, ond pe baem yn dod yn wirioneddol dda am ddefnyddio'r technolegau hyn mewn perthynas â materion polisi'r sector cyhoeddus, gallai'r byd ddod i guro ar ein drws.