Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 17 Ionawr 2018.
Ie, diolch. Rwy'n deall bod llawer o waith ar y gweill o hyd ac wrth gwrs, mae'n torri ar draws portffolio'r Gweinidog cyllid, felly edrychaf ymlaen at gael y newyddion diweddaraf maes o law. Felly, yn hytrach na mynd ar drywydd y mater hwnnw, efallai y gallwn droi'n ôl at broblem cartrefi gwag. Mae gan gynghorau yng Nghymru bŵer hefyd i gymryd rheolaeth o dai gwag drwy orchmynion rheoli anheddau gwag. Nawr, mae'r ffigurau'n dangos nad yw'r gorchmynion hyn prin yn cael eu defnyddio yng Nghymru ar hyn o bryd. A oes achos, yn eich barn chi, dros gyfarwyddo cynghorau i ddefnyddio'r pwerau hyn yn fwy aml?