Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 17 Ionawr 2018.
Na. Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw gwneud y penderfyniadau hynny. Nid wyf yn bwriadu ymyrryd neu feirniadu neu wneud sylwadau ar y penderfyniadau hynny. Dywedais ddoe yn y ddadl a gawsom fod arweinwyr awdurdodau lleol ac awdurdodau lleol yn ymdopi ag adeg eithriadol o anodd, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod angen i unrhyw Aelod Ceidwadol a ddaw i'r Siambr hon i gwyno ac i achwyn am doriadau gwariant ddechrau edrych gartref ac ar gyfrifoldeb Llywodraeth Geidwadol sydd wedi methu cyflawni drwy flynyddoedd o gyni, naill ai o ran twf economaidd neu o ran lleihau'r diffyg. Ar bob amcan a osodwyd ganddynt, maent wedi methu, a'r unig beth cyson a welsom gan Lywodraeth Geidwadol y DU yw methiant.