Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:46, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Addawodd mwy nag un o'ch rhagflaenwyr sicrhau y byddai cyfarfodydd cynghorau yn cael eu gweddarlledu, ac wrth wneud hynny, darparasant £40,000 i bob awdurdod lleol. Rwyf wedi derbyn sylwadau gan drigolion yng Nghonwy, ledled gogledd Cymru a thu hwnt, o gyn belled â Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf, sy'n pryderu nad yw'r prosesau democrataidd o wneud penderfyniadau yn hygyrch iddynt gan nad yw cyfarfodydd cyngor a'r cabinet ar gael drwy'r systemau gweddarlledu y mae eich Llywodraeth wedi darparu cyllid ar eu cyfer. Wrth fwrw ymlaen gyda'r Bil llywodraeth leol arfaethedig, a allwch gadarnhau i ni heddiw—. Gwn fod Mark Drakeford AC, eich rhagflaenydd uniongyrchol, wedi addo sicrhau bod gweddarlledu yn ofyniad gorfodol. A wnewch chi gadw at hynny mewn unrhyw broses o ddiwygio llywodraeth leol yn y dyfodol?