Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 17 Ionawr 2018.
Ar hyn o bryd, mae'r holl fyrddau gwasanaethau cyhoeddus yn ymgynghori ar eu hamcanion fel rhan o'u cynlluniau llesiant. Mae'n rhaid i'r cynlluniau llesiant lleol egluro pam y bydd yr amcanion a ddewiswyd gan y byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn sicrhau y bydd eu cyfraniad at y broses o gyflawni eu nodau llesiant cenedlaethol mor fawr â phosibl.
Gallaf ddweud wrth yr Aelodau fy mod wedi gweld rhai o'r cynlluniau hyn. Mae ansawdd rhai ohonynt, a dweud y gwir, yn amrywio, a gawn ni ddweud? Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a byrddau gwasanaethau cyhoeddus ac eraill i sicrhau ein bod yn darparu cymorth i'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus gyflawni'r math o gynlluniau yr hoffai pawb ohonom ei weld.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hefyd i groesawu'r mentrau y mae rhai byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi'u rhoi ar waith er mwyn sicrhau eu bod yn gallu atgyfnerthu eu gwaith. Rwy'n ymwybodol fod Conwy a Sir Ddinbych wedi uno'n ffurfiol i greu un bwrdd gwasanaethau cyhoeddus, fel Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Mae Ynys Môn a Gwynedd wedi dewis cydweithio i gynhyrchu cynllun asesu ar y cyd ar gyfer eu hardaloedd. Croesawaf y mentrau hynny, a chroesawaf y ffordd y mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi mynd i'r afael â'r materion hyn.