Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 17 Ionawr 2018.
Mae'r Aelod Ceidwadol dros Ganol De Cymru wedi disgrifio fy nisgwyliadau innau hefyd. Hoffwn ddweud, yn garedig iawn, ein bod megis dechrau'r broses hon, yn hytrach na hanner ffordd drwyddi neu wedi'i chwblhau. Mae byrddau'r gwasanaethau cyhoeddus yn cynnal eu hymgynghoriad ar hyn o bryd. Byddai croeso i'r Aelod, wrth gwrs, gyfrannu at ei fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ei hun gyda'r sylwadau hynny, a buaswn yn croesawu hynny'n fawr iawn. Yn sicr, y prawf ar gyfer y ddeddfwriaeth hon, a'r prawf ar gyfer y broses hon, yw sut y mae'n effeithio ar fywydau pobl. Dyna'r mater allweddol i bob un ohonom, ac yn sicr, dyna y byddaf yn ceisio mynd i'r afael ag ef yn y dyfodol.