Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 17 Ionawr 2018.
Yn wir, rwy'n rhannu cynnwrf yr Aelod ynglŷn â'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn TVR, sy'n dilyn proses o ddiwydrwydd dyladwy trylwyr, a darparwyd benthyciad masnachol ad-daladwy o £2 filiwn gennym yn gynnar yn 2016. Gwnaed hyn ochr yn ochr â benthyciwr o'r sector preifat. Rydym hefyd wedi buddsoddi £500,000 mewn ecwiti ar yr un telerau â buddsoddwyr eraill, gan roi cyfran leiafrifol o 3 y cant i Lywodraeth Cymru yn TVR, er mwyn sicrhau bod trethdalwyr Cymru yn elwa o lwyddiant y cwmni.