Y Buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn TVR

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 3:16, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am ei atebion hyd yn hyn. Hoffwn ddweud yn glir ein bod yn llwyr gefnogi cymorth y Llywodraeth i gwmnïau, yn enwedig pan fônt yn gynigion cyffrous a dynamig. Yr hyn sy'n peri pryder inni yw pan fo busnesau eraill yn nodi bod cymorth yn cael ei roi i gwmnïau, a gwrthodir cymorth iddynt hwy. Yn benodol, maent yn tynnu sylw at y set ddiwethaf o gyfrifon a gyhoeddwyd gan TVR sy'n nodi'n glir, ac rwy'n darllen o'r cyfrifon, fod y benthyciad o £2 miliwn wedi'i roi gan Lywodraeth Cymru, ac aiff ymlaen i ddweud bod y benthyciwr—sef chi— wedi nodi nad oes ganddynt unrhyw fwriad i fynnu bod y benthyciad yn cael ei ad-dalu

Credaf fod angen egluro hynny, gan nad yw'n mynd ymlaen i ddweud y byddai'r arian hwnnw yn ad-daladwy ymhen pum mlynedd, fel y nododd y Gweinidog, neu ei fod ar delerau masnachol. Mae'r datganiad hwnnw, o safbwynt arsylwadol, yn eithaf camarweiniol.

Dywed hefyd fod yn rhaid i'r cwmni godi £5.5 miliwn yn ychwanegol o ecwiti. Mae'r Gweinidog wedi nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu oddeutu £500,000 fel cyfran ecwiti. A all roi gwybod inni hefyd faint o'r £5.5 miliwn hwnnw o ecwiti a godwyd, ar wahân i'r £0.5 miliwn a gyfrannwyd gan Lywodraeth Cymru, i roi arwydd inni o faint o hyder sydd gan fuddsoddwyr eraill yn yr hyn a allai fod, o bosibl, os caiff ei gyflawni fel yr addawyd, yn ddatblygiad cyffrous i Flaenau Gwent?