Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 17 Ionawr 2018.
Ym 1994, 10 mlynedd ar ôl streic y glowyr, trodd Llywodraeth y DU eu sylw at y pwll dwfn olaf yn ne Cymru. Targed eu fandaliaeth economaidd oedd Pwll Glo'r Tower. Roedd Pwll Glo'r Tower yn Hirwaun yn broffidiol—cafodd ei ganmol gan John Redwood, o bawb, am ei gynhyrchiant. Fodd bynnag, penderfynodd Llywodraeth San Steffan daro ei hergyd derfynol yn erbyn y glowyr a fu unwaith mor gryf. Derbyniodd Undeb Cenedlaethol y Glowyr, gweithlu Pwll Glo'r Tower a'r gymuned yr her.
Ymunodd AS Cwm Cynon, Ann Clwyd, â'r glowyr mewn protest o dan y ddaear i dynnu sylw at yr ymgyrch lew. Ymateb Llywodraeth y DU a'r Bwrdd Glo Cenedlaethol oedd mwy o fradychu a thorri eu gair. Nid oedd unrhyw ddewis gan y glowyr ond pleidleisio dros gau'r pwll. Ond nid dyna ddiwedd eu stori. O dan arweiniad ysgrifennydd y gangen, Tyrone O'Sullivan, cyfrannodd 239 o lowyr £8,000 o'u tâl diswyddo i brynu'r pwll glo. Cafodd ei atgyfodi fel cwmni cydweithredol y gweithwyr; y pwll glo cyntaf yn y byd i fod yn eiddo i'w weithlu. Mae mis Ionawr 2018 yn nodi 23 mlynedd ers i'r Tower ailagor—pennod newydd feiddgar a dewr yn ei hanes.
Mae'r Tower wedi cau bellach, ond mae cynlluniau cyffrous ar gyfer dyfodol y safle; cynlluniau a fydd yn sicrhau bod y Tower a'i hanes o frwydro yn parhau'n fyw. I aralleirio'r naratif a berchnogwyd mor rymus gan lowyr y Tower: dynion cyffredin oeddent, roeddent eisiau eu gwaith, fe brynon nhw bwll glo.