Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 17 Ionawr 2018.
Diolch am dderbyn yr ymyriad. Yn gryno iawn, yn debyg i ddadl libertaraidd ar wyliadwriaeth gyhoeddus—os nad oes gennych unrhyw beth i'w guddio, nid oes gennych unrhyw beth i'w ofni—onid yw'n wir hefyd, os nad oes unrhyw beth i'w ofni o ran tanseilio uniondeb datganoli o ganlyniad i'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ceisio ei wneud, pam na ddylid cael sicrwydd dwbl a chyflwyno Bil parhad hefyd?