Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 17 Ionawr 2018.
Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl. Hoffwn ddechrau drwy ddweud yn bersonol, fel y dywedodd Jane Hutt, pa mor braf yw hi i weld Steffan Lewis unwaith eto yn arwain dadl ar Brexit yma yn y Cynulliad. Bydd aelodau'r Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig, sy'n nodi'r safle sydd wedi'i gyrraedd ar hyn o bryd ar y Bil parhad.