5. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 3:24, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o wneud y cynnig deddfwriaethol ar gyfer Bil parhad i Gymru yn ffurfiol. Rwyf hefyd am gofnodi, Lywydd, nad cyflwyno na hyd yn oed deddfu Bil parhad i Gymru yw'r opsiwn a ffafrir gan Blaid Cymru, ac ni fu erioed yn opsiwn a ffafrir gennym.

Yn wir, yn sgil y refferendwm Ewropeaidd, rwy'n cofio awgrymu bod pedair Llywodraeth y DU yn dod at ei gilydd, gan ddefnyddio templed ymuno wedi'i wrthdroi efallai fel ffordd o sefydlu sut y byddem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd a sut y gallwn ddarparu ar gyfer cymhlethdodau cyfansoddiadol yr undeb hwn. Ni fyddai hynny wedi bod yn hawdd, ni fyddai wedi bod yn broses syml, a byddai wedi cymryd amser. Ond honno fyddai'r broses orau wedi bod, y broses decaf, a byddai wedi golygu bod y DU mewn sefyllfa i sbarduno erthygl 50 gyda'i llygaid yn llydan ar agor. Gallai Senedd y DU, felly, fod wedi ystyried Bil ymadael llawer mwy boddhaol a fyddai, i bob pwrpas, wedi cael ei ysgrifennu a'i gytuno ar yr un pryd gan bob un o Lywodraethau'r DU. Yn hytrach, Lywydd, nid yw Llywodraeth y DU wedi dangos fawr mwy na dirmyg tuag at y gwledydd datganoledig.

Bydd yr Aelodau'n cofio fy mhryderon ynghylch paragraff drwgenwog 4.2 o Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ar gyfer yr hyn a elwid ar y pryd yn Fil diddymu mawr, a oedd yn camgyfleu'n fwriadol sut y mae'r DU yn cytuno i fframweithiau cyffredin yr UE sy'n ymwneud â materion datganoledig. Rhagwelodd Plaid Cymru yn gywir ar y pryd fod yr enghraifft hon o gamgyfleu yn ffordd o osod y sylfeini i San Steffan allu cipio grym, a dyma ni bellach gyda'r hyn a elwir yn Fil ymadael â'r UE, sy'n enghraifft amlwg o gipio grym os bu un erioed.

Bydd cymal 11 y Bil yn gosod cyfyngiadau newydd ar allu'r Cynulliad hwn i ddeddfu. Bydd pwerau dros faterion a ddatganolwyd ers tro, fel amaethyddiaeth a diogelu'r amgylchedd, yn cael eu cipio gan Weinidogion yn San Steffan. Bydd penderfyniadau a fydd yn effeithio'n fawr ar fywoliaeth ffermwyr Cymru, er enghraifft, yn cael eu gwneud yn San Steffan gan rai sydd hefyd yn awyddus iawn i daro bargeinion masnach newydd gyda gwledydd fel America, Awstralia a Seland Newydd doed a ddelo.

Mae Llywodraeth y DU wedi addo y bydd y Cynulliad yn cael ei gryfhau, gan gynnig pwerau newydd sylweddol, er nad ydynt wedi gallu nodi unrhyw un ohonynt hyd yn hyn. Ers i'r larymau ddechrau canu, mae Plaid Cymru wedi galw am weithredu deddfwriaethol unochrog ar ffurf Bil parhad, nid am ein bod wedi dymuno i Gymru fod o dan y bygythiad hwn, ond am fod Cymru o dan y bygythiad hwn.

Lywydd, pan wyf wedi am y Bil parhad yn y gorffennol, mae rhai o'r Aelodau yma wedi cwestiynu fy nghymhellion, ac efallai wedi amau ei fod yn rhan o gynllwyn gan genedlaetholwyr Cymreig sydd o blaid aros yn yr UE i atal Brexit ac i  ddymchwel y wladwriaeth Brydeinig rywsut. Wel, rwyf wedi dysgu dros yr ychydig wythnosau diwethaf fod bywyd yn rhy fyr i beidio â dweud yr hyn rydych yn ei gredu a chredu'r hyn rydych yn ei ddweud. Rwy'n genedlaetholwr Cymreig, a byddaf bob amser yn credu mewn dyfodol Ewropeaidd i fy ngwlad, ond pa un a oeddech o blaid gadael neu aros, a pha un a ydych yn unoliaethwr neu'n genedlaetholwr, mae hynny'n amherthnasol i fater y Bil parhad. Mae pa un a ddylech gefnogi Bil parhad ai peidio yn dibynnu ar sut rydych yn ateb un cwestiwn syml: a ydych yn credu bod refferendwm 2016 yn darparu mandad i Lywodraeth y DU gipio pwerau oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol hwn? Mae Plaid Cymru yn dweud nad yw'n darparu mandad o'r fath, yn enwedig pan addawyd y gwrthwyneb yn llwyr i bobl Cymru yn ystod y refferendwm hwnnw.

Lywydd, mae amseru hefyd yn bwysig ac ni allaf ddeall pam y mae Llywodraeth Cymru yn dymuno gwthio'r mater hwn hyd at y funud olaf. Ni dderbyniodd Llywodraeth y DU unrhyw un o'r gwelliannau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth yr Alban mewn perthynas â'r Bil ymadael; torrodd Llywodraeth y DU ei haddewid ei hun hyd yn oed, i gyflwyno ei gwelliannau ei hun er mwyn gwella'r Bil yn ystod y Cyfnod Adrodd. Beth arall sydd angen iddynt ei wneud i fygwth datganoli yng Nghymru cyn ein bod yn barod i weithredu i amddiffyn ein democratiaeth a enillwyd drwy ymdrech galed?

Lywydd, gallwch fod yn sicr: ar ôl iddynt gael eu dwylo ar amaethyddiaeth Cymru, amgylchedd Cymru, byddant yn rhoi mesurau ar waith a allai fod yn anwrthdroadwy pe baem yn cael y pwerau hynny yn ôl byth. Mae gennym gyfnod byr o amser i weithredu er budd ein dinasyddion a'r hawliau a'r safonau sy'n bwysig iddynt, yn ogystal â'r strwythurau democrataidd y maent wedi eu cymeradwyo mewn dau refferendwm. Gadewch i ni fachu'r cyfle hwn. Rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn i'r Cynulliad Cenedlaethol. [Cymeradwyaeth.]