Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 17 Ionawr 2018.
Mae'r dystiolaeth yn glir, rydw i'n credu, neu yn sicr mi ydw i wedi cael fy argyhoeddi. Yn 2016, fel rydym ni wedi clywed, mi gyhoeddwyd canlyniadau saith mis o ymchwil gan bwyllgor trawsbleidiol yn San Steffan. Mae'r ymchwiliad hwnnw, yn ei dro, wedi ei seilio ar adolygiad byd-eang o dystiolaeth, a'r argymhelliad clir iawn oedd y dylid cyfreithloni canabis at ddibenion meddygol.
Mae hi yn bwysig iawn, wrth gwrs, ein bod ni'n llunio deddfwriaeth neu ddod i farn, fel rydym ni eisiau ei wneud heddiw, yn seiliedig ar dystiolaeth, ac yma mae'r dystiolaeth gennym ni, rydw i'n credu. Mi wnaeth Cymdeithas MS edrych ar y dystiolaeth yn ofalus iawn, iawn cyn penderfynu newid eu polisi ar hyn, a bellach maen nhw yn gefnogwyr brwd ac yn ymgyrchwyr brwd dros ddad-gyfreithloni at ddibenion meddygol. Pam? Oherwydd eu bod nhw'n gwybod am y manteision. Maen nhw'n delio yn ddyddiol â phobl sy'n chwilio am ffyrdd i liniaru effeithiau afiechyd creulon. Gadewch i ni, fel Cynulliad, hefyd edrych yn wrthrychol ar y dystiolaeth a rhoi ein cefnogaeth ni i'r unigolion hynny a fyddai'n elwa o'r newid synhwyrol hwn.