Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 17 Ionawr 2018.
Mae canabis, pa un a yw'n cael ei ddefnyddio at ddibenion meddyginiaethol neu ddibenion hamdden, yn sylwedd peryglus a fyddai'n arwain at ganlyniadau trychinebus i iechyd ac i gymdeithas pe bai'n cael ei gyfreithloni.
Fodd bynnag, ni allwch hepgor yr ymadrodd at ddibenion meddyginiaethol neu ddibenion hamdden fel pe bai'r ddau yr un fath, oherwydd nid ydynt, a dyna yw fy apêl heddiw ac wrth gwrs, rwy'n croesawu ymyriad.