6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:32, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd, a diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw, a'r ystyriaeth y maent wedi ei rhoi i'r cysyniad o ddarparu canabis gwair i gleifion at ddefnydd meddyginiaethol. Rwy'n cydnabod y diddordeb diffuant a thrawsbleidiol yn y pwnc hwn, ac mae wedi bod yn ddadl synhwyrol iawn yn fy marn i am—. Ond cyn i mi fynd at graidd ymateb y Llywodraeth, rwyf am gydnabod bod mwy nag un rheswm dros gael y dadleuon hyn gan Aelodau. Mae rhywbeth ynglŷn â dweud yn bendant eich bod am i'r Llywodraeth wneud rhywbeth yn awr, ac efallai y bydd rhai pobl am i hynny ddigwydd yn bendant, ac efallai y bydd eraill am wneud yn siŵr fod dadl gyhoeddus yn parhau ynglŷn â defnyddio canabis at ddibenion meddyginiaethol a sut y gellir datblygu hynny. Ond i mi fy hun ac o safbwynt y Llywodraeth, mae'r cynnig yn darparu rhywbeth i feddwl yn ei gylch, a hefyd, yn ymarferol, i mi mae'n creu mwy o gwestiynau nag o atebion. Ac rwy'n derbyn, wrth gwrs, fod yna beth tystiolaeth y gall canabis neu ei ddeilliadau chwarae rôl yn rheoli poen cronig, gorbryder, sbastigedd a chyfog a chwydu yng nghyd-destun cemotherapi. Ac yn hanesyddol, wrth gwrs, defnyddiwyd trwyth canabis at boen ochr yn ochr â lodnwm ac opiwm. Fodd bynnag, rydym bellach yn llawer mwy ymwybodol o sgil-effeithiau niweidiol cyffuriau o ansawdd gwael nad ydym yn eu deall yn dda, ac mae'n well gennym ddefnyddio meddyginiaethau diogel ac wedi'u rheoleiddio. Ac rydym am i bobl gael mynediad at feddyginiaethau trwyddedig, effeithiol i liniaru'r cyflyrau hyn yn hytrach na bod pobl yn troi at gyffuriau sy'n anghyfreithlon ar hyn o bryd, ac o darddiad, cryfder neu burdeb sy'n anhysbys.

Credaf ei bod yn deg gwneud sylwadau ar beth o'r dryswch ynghylch diben yr hyn a ofynnir i ni heddiw, oherwydd, mewn gwahanol gyfraniadau gan gefnogwyr y cynnig, rydym wedi clywed y gwahaniaeth rhwng, dyweder, canabis gwair a chaniatáu hwnnw at ddefnydd meddyginiaethol, neu'r defnydd o ddeilliadau canabis, neu fel y nodwyd sawl gwaith, cyffuriau canabinoid. Hoffwn egluro: nid wyf yn meddwl, o safbwynt y Llywodraeth, mai dadl am ddad-droseddoli yw hon mewn gwirionedd. Ceir problemau gwahanol gyda chyfreithloni canabis. Credaf fod hyn yn ymwneud mewn gwirionedd ag a ddylech ei ganiatáu at ddiben penodol ac os felly, ar ba ffurf. Felly, nid yw'n ymwneud â gwahardd deilliadau canabis mewn meddyginiaeth drwyddedig.

Ond rwy'n falch, yng nghwrs y cynnig, fod yr Aelodau wedi cydnabod mai'r Llywodraeth hon yw'r unig weinyddiaeth yn y DU sydd wedi argymell defnyddio Sativex i drin symptomau sbastigedd sglerosis ymledol, megis gwayw a chramp. Efallai ei bod hi'n werth atgoffa'r Aelodau pam a sut y gwnaethom hynny: oherwydd bod y gwneuthurwr wedi rhoi cryn dipyn o amser, arian ac ymdrech tuag at ddatblygu Sativex, y feddyginiaeth gyntaf yn y byd sy'n deillio o ganabis. Roedd yn rhaid i'r cwmni gynhyrchu meddyginiaeth ddiogel ac effeithiol i fodloni safonau modern, ac felly dilynodd yr union yr un weithdrefn drwyadl ag sy'n ofynnol ar gyfer datblygu pob meddyginiaeth newydd sydd i'w defnyddio yn y DU. Ac roedd hynny'n cynnwys nodi pa rai o'r 60 o ganabinoidau a chemegion eraill sy'n bresennol mewn canabis a allai weithredu i leihau poen. Ar y pwynt hwnnw, mae'n werth crybwyll bod effeithiau fferyllol llawer o'r rhain yn dal i fod yn anhysbys. Ar ôl eu nodi, roedd y camau datblygu wedyn yn cynnwys sefydlu'r cyfuniad mwyaf effeithiol o'r cemegau a phrofion cynnar am wenwyndra cyn symud ymlaen i'r cam treialu clinigol. Mae'r cyfnodau treialu clinigol o reidrwydd wedi eu rheoleiddio'n llym i ddiogelu'r gwirfoddolwyr y cynhelir y profion arnynt a'r boblogaeth o gleifion posibl yn dilyn hynny. Mae'n werth nodi yr amcangyfrifir mai pedwar yn unig o bob 100 o feddyginiaethau a ddatblygir gan gwmnïau fferyllol sy'n cyrraedd y farchnad yn y pen draw.

Yn y DU, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, yr MHRA, a drwyddedodd Sativex ar gyfer ei ddefnyddio yn y DU ym mis Gorffennaf 2010. Un rhan yn unig o sicrhau ei fod ar gael yn y GIG yw hynny, gan nad ydynt yn awdurdodi trwydded neu awdurdodiad marchnata oni fyddant yn fodlon fod y feddyginiaeth yn ddiogel ac yn trin y cyflwr a dargedir. Wedyn, mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal neu Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru yn arfarnu meddyginiaethau newydd drwy gymharu eu heffeithiolrwydd clinigol a'u costeffeithiolrwydd â thriniaethau presennol sydd eisoes ar y farchnad. Nawr, nid yw NICE yn argymell Sativex ar gyfer trin sbastigedd mewn sglerosis ymledol ar sail costeffeithiolrwydd ar hyn o byd—felly, nid effeithiolrwydd, ond costeffeithiolrwydd. O ganlyniad, nid yw ar gael fel mater o drefn i gleifion y GIG yn Lloegr, ond gofynnodd Llywodraeth Cymru i Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru gynnal arfarniad o Sativex, a gwnaethant ei argymell i ni ym mis Awst 2014. Gwnaeth fy rhagflaenydd yn siŵr ei fod ar gael yng Nghymru o'r adeg honno, lle roedd yn briodol yn glinigol. Gwn fod heriau wedi bod gyda sicrhau bod Sativex ar gael yn briodol i'r holl bobl a allai ac a ddylai elwa, ond nid oes gan hynny ynddo'i hun ddim i'w wneud â'r ffaith ei fod yn deillio o ganabis. Ceir her ehangach yr ydym yn ceisio ei goresgyn o fewn y Llywodraeth ynglŷn â sicrhau bod y meddyginiaethau newydd a argymhellir ac a ganiateir ar gael yn briodol wedyn i'r holl bobl fel sy'n briodol yn glinigol.

Dyma sy'n sail i'n dull gweithredu, nid yn unig yma heddiw yn yr un achos hwn, ond ynghyd â'r broses arfarnu, ac yn wir yr adolygiad a gawsom o broses cyllido ceisiadau cleifion unigol yn ogystal, ein bod eisiau ac y byddwn yn parhau i ddefnyddio dull seiliedig ar dystiolaeth i benderfynu pa feddyginiaethau a allai ac a ddylai fod ar gael yn y GIG yma yng Nghymru.