Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 17 Ionawr 2018.
Ni chredaf fod hynny'n wir, mewn gwirionedd. Fe geisiaf egluro pam yn yr amser sy'n weddill. Oherwydd yr hyn y mae'r cynnig yn dadlau drosto yw'r defnydd o ganabis gwair ac osgoi ein prosesau rheoleiddio ac arfarnu hirsefydledig ac uchel eu parch. Mae'r prosesau hynny ar waith i ddiogelu cleifion a sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario ar driniaethau clinigol profedig a chosteffeithiol. Heb sail dystiolaeth, heb eglurder ynghylch purdeb, dos a chryfder ac amgylchiadau triniaeth, byddem hefyd yn rhoi'r rhai sy'n presgripsiynu mewn sefyllfa anghynaliadwy. Oherwydd mae'n rhaid i chi ddeall, os nad ydych yn mynd i gael y cyffur sy'n deillio o ganabis y gallwch ei gael ar hyn o bryd—. Nid yw'r ffaith nad yw canabis ei hun yn gyffur hamdden cyfreithlon yn gwneud unrhyw wahaniaeth i hynny. Mae'n ymwneud â'r gallu i ynysu'r canabinoidau a'u profi mewn proses drylwyr, ddiogel a gwneud yn siŵr eu bod yn gosteffeithiol hefyd. Dyna'r unig rwystr i ganiatáu i ganabinoidau fod ar gael ar ffurf cyffur yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Os ydych chi wedyn yn sicrhau bod ffurf amrwd ar y cyffur ar gael, neu ganabis gwair, yna ni allwch wybod pa mor gryf yw hwnnw. Ni allwch wybod ar gyfer pa gyflwr y byddech yn presgripsiynu a'r cryfder ar gyfer y cyflwr penodol hwnnw hefyd. Mae'n her ymarferol, yn hytrach na gwrthwynebiad egwyddorol i ganabis meddyginiaethol, a dyna'r pwynt. Mae'n ymwneud â sut yr arferwn ddull gweithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth wirioneddol i sicrhau bod meddyginiaethau ar gael yn y gwasanaeth iechyd. [Torri ar draws.] Nid wyf yn gwybod a fydd y Llywydd yn caniatáu mwy o amser i mi dderbyn ymyriad arall.