Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 17 Ionawr 2018.
Yn gynharach heddiw, cawsom gyfarfod efo pobl a roddodd dystiolaeth i’r ymchwiliad gwreiddiol, draw yn y Pierhead amser cinio, a hynny er mwyn cael eu barn ar ganfyddiadau’r adroddiad a hefyd ar ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad ni. Dyma fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch unwaith eto i bawb a gymerodd ran yn ein hadolygiad.
Rwy'n symud ymlaen at y casgliadau a'n hargymhellion ni. Mae ein hadroddiad yn ymdrin ag ystod eang o faterion, gan gynnwys a yw’r clystyrau wedi lleihau’r galw ar feddygon teulu, y manteision o weithio fel tîm amlddisgyblaethol, a lefel y cyllid a’i ddyraniad. Mae gennym gyfanswm o 16 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, a’r gobaith yw y bydd y rhain yn cyfrannu tuag at sicrhau’r newid mawr sydd ei angen, yn ein barn ni, o ran datblygiad a chyfeiriad clystyrau gofal sylfaenol, os ydyn nhw i ysgafnhau’r pwysau sydd ar feddygon teulu ac ysbytai Cymru.
Mae’r set gyntaf o argymhellion—argymhellion 1, 2, 3 a 4—yn ymwneud â chyflymder a natur datblygiad clwstwr. Mae amrywiad sylweddol yn y 64 o glystyrau o ran eu haeddfedrwydd a ble maen nhw arni yn eu datblygiad. Er nad yw amrywiad ynddo’i hun yn beth negyddol, mae’r pwyllgor am gael sicrwydd bod yr amrywiad hwn o ganlyniad i ymateb i anghenion lleol, yn hytrach na diffyg cysondeb yng nghyflymder y datblygiad. Clywsom wahaniaeth barn ynghylch diben y clystyrau a chredwn fod hyn yn ychwanegu at yr amrywiad yn y ffordd y maen nhw’n datblygu. Er bod rhai yn effeithiol iawn o ran dod â rhanddeiliaid a phartneriaid cyflenwi allweddol ynghyd, mewn ardaloedd eraill, ymddengys iddynt gael eu hystyried yn gyfrwng ar gyfer gwneud cais am arian yn bennaf. Dywedodd rhai o’r ymatebwyr fod datblygiad rhai clystyrau yn dibynnu i raddau helaeth ar egni a brwdfrydedd meddygon teulu, practisau meddygon teulu, neu arweinwyr clwstwr unigol, ac nad yw’r model hwn yn un cynaliadwy yn y tymor hir. Hefyd, clywsom nad yw’r holl randdeiliaid cywir yn cymryd rhan, a bod rhai clystyrau’n dal i ganolbwyntio ar bractis meddygol cyffredinol.
Rydym yn cytuno efo Llywodraeth Cymru y dylai gwasanaethau gofal sylfaenol ganolbwyntio’n gryf ar gynllunio a chyflwyno gwasanaethau lleol i ddiwallu anghenion iechyd y boblogaeth. Felly, rydym yn cefnogi’r farn bod angen annibyniaeth ar glystyrau. Fodd bynnag, rhaid gosod hyn o fewn fframwaith llywodraethu llawer mwy diffiniedig a strwythuredig. Mae angen golwg gliriach ar ffurf, atebolrwydd, pwerau a strwythur y clystyrau yn y dyfodol. Heb hyn, y perygl yw y bydd amrywiaeth o drefniadau ad hoc lleol ac, oherwydd hynny, na fydd newid cynaliadwy yn digwydd. Felly, rwy’n croesawu’r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn, yn llwyr neu mewn egwyddor, argymhellion 1 i 4.
Rwy’n troi nawr at y cwestiwn a yw clystyrau’n gwireddu uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal sylfaenol, sef argymhellion 5, 6 a 7. Rydym yn cefnogi’n llawn nod Llywodraeth Cymru i glystyrau chwarae rhan arwyddocaol wrth gynllunio’r gwaith o drosglwyddo gwasanaethau ac adnoddau allan o ysbytai i’w cymunedau lleol. Ni fydd hyn yn digwydd heb ffocws ac ysgogiad cynyddol o ran sut y gall gweithwyr gofal eilaidd ymwneud yn ystyrlon â gwaith clwstwr a sut y gall clystyrau ymgymryd â’r heriau mawr o ran lleihau gofal heb ei drefnu. Rhaid i Lywodraeth Cymru nodi cynllun clir ynghylch sut y bydd yr agwedd hon ar waith clwstwr yn cael ei datblygu.
Clywsom hefyd am yr angen i newid disgwyliadau cleifion o ran priodoldeb gweld ystod o weithwyr proffesiynol gofal sylfaenol, yn hytrach na gweld y meddyg teulu bob tro. Rhoddwyd enghreifftiau o gleifion sy’n mynnu gweld meddyg teulu er gwaethaf y ffaith bod aelodau eraill o staff ar gael, fel nyrsys practis, ac y gallai fod wedi bod yn fwy priodol iddynt eu gweld nhw yn lle. Felly, rydym ni yn cefnogi’r angen am ymgyrch genedlaethol a fydd yn adeiladu ar y strategaeth Dewis Doeth bresennol i wella dealltwriaeth y claf a’r gefnogaeth ar gyfer y dull tîm amlddisgyblaethol cynyddol. Rydym ni'n croesawu’r ffaith fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn, yn llwyr neu mewn egwyddor, argymhellion 5, 6 a 7.
Mae argymhellion 8, 9 a 10 yn canolbwyntio ar faterion sy’n gysylltiedig â staffio. Mae manteision amlwg a sylweddol i’r dull tîm amlddisgyblaethol y mae’r clwstwr yn seiliedig arno. Fodd bynnag, mae rhai o’r anawsterau ymarferol cysylltiedig yn sylweddol ac, yn ein barn ni, nhw fydd yr her fwyaf arwyddocaol, o bosibl, i ddyfodol clystyrau. Mae’r rhain yn cynnwys: recriwtio a chadw meddygon teulu ac ystod eang o weithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud â gofal sylfaenol; y cwestiwn ynghylch pwy sy’n cyflogi staff clwstwr a materion cysylltiedig fel pensiynau ac indemniad, efallai’r rhwystr mwyaf sylweddol i waith clwstwr effeithiol; y potensial i feddygon teulu dreulio amser yn ymdrin â materion adnoddau dynol a rheoli yn hytrach na darparu gofal clinigol; y ffaith bod goruchwyliaeth glinigol y tîm amlddisgyblaethol yn cael ei wanhau gan fod staff yn cael eu gosod y tu allan i fodelau rheoli traddodiadol a lleoliadau ffisegol; effaith negyddol dyraniadau cyllid blynyddol sy’n effeithio ar y gallu i recriwtio a chadw staff o safon; a hefyd materion llywodraethu cysylltiedig.
Yn ogystal, clywsom fod angen mynd ati, o fewn y model clwstwr newydd hwn, i gynllunio a chydgysylltu’r ddarpariaeth ar gyfer datblygu sgiliau staff a hyfforddi’r gweithlu. Siom, felly, yw bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrthod ein galwad i gyflwyno arweinydd cenedlaethol i gydlynu anghenion hyfforddiant a datblygu yn y clystyrau. Fe fyddwn i’n croesawu esboniad gan Ysgrifennydd y Cabinet am ei resymau dros wneud hyn. Croesawyd cyllid clwstwr gan bawb sy’n ymwneud â gwaith clwstwr, yn genedlaethol ac yn lleol. Mae tri o’n hargymhellion, sef 11, 12 a 13, yn ymwneud â chyllid. Seiliwyd y tri ar y dystiolaeth a ddaeth i law ac nid ydyn nhw’n galw am gyllid ychwanegol. Mae’n siom, felly, fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dewis diystyru’r pwyntiau pwysig hyn.
Mae angen seilwaith amserol ac effeithiol ar y gwasanaeth iechyd gwladol i gefnogi’r newid i waith clwstwr. Mae hyn yn cynnwys yr ystâd gofal sylfaenol a’r seilwaith IT—argymhellion 14 a 15. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu mai ychydig o gynnydd a welwyd yn y maes hwn a bod yr ystâd, yn ei hystyr ehangaf, yn parhau i fod yn broblem sylweddol i’r sector gofal sylfaenol. Rwy’n croesawu’r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi swm o £68 miliwn yn ddiweddar i gyflwyno 19 canolfan iechyd a gofal integredig newydd ledled Cymru erbyn 2021, gan y bydd y rhain yn allweddol i leddfu pwysau ar feddygon teulu ac ysbytai trwy gadw gwasanaethau iechyd hanfodol yn agosach at bobl yn eu cymunedau. Hefyd, rwy’n edrych ymlaen at glywed ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i ganfyddiadau’r adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol mewn perthynas â seilwaith IT.
Mae a wnelo ein hargymhelliad terfynol, argymhelliad 16, â’r angen am drefn gliriach a mwy cadarn ar gyfer gwerthuso gwaith clwstwr. Yn gyffredinol, clywsom adborth cadarnhaol am effaith ganfyddedig mentrau clwstwr, ond ychydig iawn o dystiolaeth fesuradwy oedd ar gael i ategu’r canfyddiadau hyn. Mynegwyd pryderon ynghylch a yw’n bosibl dangos effaith clystyrau, ac a oes mecanweithiau ar waith i sicrhau y gellid gwerthuso’n gadarn yr hyn maen nhw’n ei wneud, ac i ba raddau maen nhw’n gwella canlyniadau cleifion. Ystyriwyd bod gwerthuso a monitro yn hanfodol nid yn unig wrth asesu cynnydd, ond hefyd wrth sicrhau bod gwaith clwstwr llwyddiannus yn cael ei rannu ag eraill a’i gyflwyno lle bo’n briodol. Mae’n siomedig, felly, fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrthod argymhelliad 16. Edrychaf ymlaen at y ddadl y prynhawn yma. Diolch yn fawr.