Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 17 Ionawr 2018.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan a hefyd eto ategu ein diolch i'r clercod a'r sawl sydd yn ymchwilwyr i ni fel pwyllgor am eu holl gwaith, ac wrth gwrs i'r sawl sydd wedi bod yn rhoi tystiolaeth i ni dros y misoedd diwethaf. Roedd hi'n hyfryd cyfarfod efo nifer ohonyn nhw, fel gwnaeth Julie Morgan ei ddweud, amser cinio yn y Pierhead, fel rhyw fath o gwblhau'r cylch. Roedden nhw wedi cyflwyno tystiolaeth, roedden nhw wedi gweld ein hadroddiad ni, roedden nhw wedi gweld ymateb y Llywodraeth, ac roedd yna le iddyn nhw drafod hynny hefyd. Dyna'r tro cyntaf i hynny ddigwydd i ni fel pwyllgor, a buaswn i'n meddwl fe fuaswn i'n ei weld fel rhyw fath o template i bwyllgorau eraill weithredu hefyd.
Reit, fe gawsom ni res o siaradwyr: Angela, Dawn, Rhun, Julie, Caroline, Jenny. Rwy'n falch o gael siaradwr nad oedd yn aelod o'r pwyllgor—nid fy mod i'n amharchu unrhyw aelod o'r pwyllgor hefyd a wnaeth siarad, ond rwy'n falch o gael rhywun sydd ddim yn aelod o'r pwyllgor yn cyfrannu hefyd, ac, wrth gwrs, yr Ysgrifennydd Cabinet ei hunan.
Y pwynt sylfaenol—ac rydym ni'n mynd i barhau i anghytuno ar hyn, rydw i'n siŵr—ydy'r angen am sicrwydd ariannol i gyflogi, yn enwedig i gyflogi staff newydd ar lefel y clwstwr. Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ei hun ddweud am yr enghreifftiau yna o glystyrau yn cyflogi paramedics, a hefyd fferyllwyr. Mae'n llawer haws cyflogi rhywun ar gytundeb o dair blynedd nag ar gytundeb o flwyddyn. Dyna'r pwynt sylfaenol roedd llawer o'r tystion yn dweud wrthym ni, fod angen y sicrwydd ariannol yna, a hefyd sicrwydd cytundebau, pensiynau ac ati—pwy oedd yn eu rheoli nhw. Achos mae'r clystyrau eu hunain yn endid sydd ddim, fel y byrddau iechyd, yn endid cyfreithiol felly ym materion cyflogaeth. Felly, y manylion yna sydd angen eu datrys er mwyn gallu cael swyddi fel y paramedics yna, fel y fferyllwyr, sy'n gwneud gwaith clodwiw iawn, mae'n rhaid i mi ddweud, achos mae paramedics gyda ni yn y clwstwr rydw i'n rhan ohono fe ac mae wedi trawsnewid y ffordd rydym ni'n gweithio. Os oes yna alwad brys rŵan yng nghanol ein syrjeri, nid oes yn rhaid i feddyg teulu adael y syrjeri rŵan, a'r holl gleifion sydd yn y fanna, i fynd i weld rhywun allan sydd wedi cwympo neu beth bynnag. Mae'r paramedic yna ac yn ein ffonio ni. Mae wedi trawsnewid y ffordd rydym ni'n rhedeg o ddydd i ddydd. Felly, maen nhw yn gwneud cyfraniad gwerthfawr fel yna ac mae angen eu cadw nhw a'u parchu nhw.
Felly, rydym ni wedi clywed yr holl ddadleuon yna, ac wnaf i ddim ailadrodd y dadleuon rydym ni wedi cael yn y fan hyn chwaith ynglŷn â pha argymhellion sydd wedi'u pasio a pha argymhellion sydd wedi cael eu gwrthod, ond mae'n wir i nodi fod y clystyrau yma yn ddatblygiad cyffrous. Mi ydw i hefyd yn ddigon hen i fod wedi cael yr un un ddadl roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn dweud amdano—ar y dechrau, flynyddoedd yn ôl, nid oedd neb yn siŵr iawn os oedd y rhain yn mynd i weithio neu a oedden nhw'n mynd i fod yn haenen ychwanegol o fiwrocratiaeth ar feddygon teulu, a oedd dim digon ohonom ni yn y lle cyntaf, ac a fyddai angen mwy o waith ac ati. Wel, rydym ni'n rhannol wedi dod dros hynny, ond yn rhannol hefyd mae'r rheithgor yn dal allan. Dyna pam mae pobl yn gofyn, a dyna pam mai prif argymhelliad yr adroddiad yma ydy bod eisiau newid mawr yn sylweddol—step change—yn natblygiad y clystyrau ac yn eu gweithredu, er mwyn i ni allu sicrhau a gwireddu y dyhead yma i gael y timau amlddisgyblaethol yma yn gweithio efo'i gilydd er mwyn buddiannau ein cleifion. Diolch yn fawr.