Part of the debate – Senedd Cymru am 7:06 pm ar 24 Ionawr 2018.
Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr iawn i Siân Gwenllian am gyflwyno'r ddadl eithriadol o bwysig hon. Pleser o'r mwyaf yw bod yma i dystio iddi. Rwyf am ddechrau drwy ddweud fy mod i'n bersonol wedi fy ethol oddi ar restr fer a gynhwysai fenywod yn unig—rhywbeth y brwydrodd fy mhlaid drosto am flynyddoedd, ac mae llawer o'r menywod a frwydrodd drosto gyda ni yn y Siambr. Mae'n rhywbeth yr oeddwn yn hynod o falch fod fy mhlaid yn yr etholaeth wedi ei gefnogi i'r carn, oherwydd gallent weld drostynt eu hunain pa mor anodd yw hi i fenywod gamu ymlaen ym myd cystadleuol dethol ymgeiswyr, ac yn y blaen.
Gall y broses ddethol ynddi ei hun weithio yn erbyn y cryfderau sydd gan fenywod o ran cydweithio ac ati. Bob tro yr awn drwy un o'r prosesau dethol hynny yn ein plaid ein hunain, rydym yn brwydro unwaith eto yn erbyn y broblem o ddewis rhwng cydweithwyr a ffrindiau ac ati. Credaf fod cydweithio a'r holl ysbryd sydd ynghlwm wrth hynny yn rhywbeth y mae angen i ni ei gynnwys yn ein pleidiau gwleidyddol er mwyn hyrwyddo'r agenda hon. Ond rwy'n sefyll yma yn bendant fel rhywun a etholwyd oddi ar restr fer o fenywod yn unig ac rwy'n falch iawn mai felly y bu.
Gwibiodd Siân drwy nifer fawr o faterion y mae angen inni eu symud ymlaen o hyd, a chredaf fod y rhan fwyaf ohonom yn ddig ac yn drist fel ei gilydd ynghylch rhai o'r pethau a drafodwyd gennym yma heddiw. Felly, fe wibiaf drwyddynt hefyd. Cyflog cyfartal: wrth gwrs y dylem gael cyflog cyfartal. Mae blynyddoedd ers Deddf Cyflog Cyfartal 1970 ac roedd y Ddeddf cyflog cyfartal yn beth gwych, ond nid yw'n cael ei gweithredu. Roedd angen Deddf Cydraddoldeb 2010 er mwyn gorfodi'r Ddeddf Cyflog Cyfartal i gael ei gweithredu. Mae'n warthus mewn gwirionedd. Mater tryloywder—rhaid i chi orfodi pobl i fod yn dryloyw, rhywbeth a wneuthum yn fy mywyd fy hun sawl gwaith pan oeddwn yn negodi fy nghyflog fy hun mewn cwmnïau cyfreithiol yn y sector preifat a byddent yn dweud wrthyf beth fyddai fy monws neu beth bynnag y byddai, a byddwn innau'n dweud, 'Beth y mae'r dynion yn ei gael?' Mewn cwmnïau lle nad yw'n broblem, maent yn dweud wrthych ar unwaith a lle na fyddant yn dweud wrthych, nid yw byth oherwydd nad ydynt yn cael cymaint â chi.
Felly, rhaid i mi ddweud mai un o'r pethau rwyf wedi hoffi hefyd ers bod yma yw prosiect Cenedl Hyblyg Chwarae Teg. Mae'n dysgu menywod ifanc i wneud yr hyn rwyf newydd ei ddweud. Ac roedd y codiad cyflog cyfartalog o ganlyniad i'r prosiect hwnnw yn £3,000 y flwyddyn i'r menywod hynny, oherwydd yr hyn y maent yn ei wneud yn dda yw eu dysgu sut i sefyll dros eu hawliau, ac mae hynny'n bwysig iawn hefyd. Mae'n rhywbeth y mae gwir angen inni ei wneud.
Ceir yr agenda aflonyddu rhywiol, y pethau a welwn ar y cyfryngau cymdeithasol, y rhywiaeth bob dydd y bydd rhai ohonoch chi'n ei ddilyn mae'n siŵr, #ThisIsMe ac ati. Rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau diddorol iawn o amgylch Cymru am #ThisIsMe, gyda phobl yn dweud, 'Nid yw pob menyw yn cael profiad felly' ac nid wyf erioed wedi bod mewn ystafell lle mae menyw wedi dweud, 'Wel, nid wyf fi wedi cael profiad felly.' Erioed. Efallai mai fi'n unig yw hynny, ond ni chlywais hynny erioed. A'r rheswm am hynny yw bod menywod wedi cael eu dysgu i gadw'n ddistaw am bethau o'r fath, ac yn awr mae yna fenywod ifanc nad ydynt yn cael eu dysgu i gadw'n ddistaw yn codi llais ac rwy'n eu cymeradwyo am wneud hynny ac mae angen inni eu cefnogi bob cam o'r ffordd.
Lywydd, os nad ydych wedi ei weld—nid wyf yn gwybod a ydych chi'n gwylio rhaglenni o'r fath, neu wedi gwneud hynny—mae yna raglen o'r enw Have I Got News For You ac mae gwylio Jo Brand, y digrifwr, yn dweud wrth Ian Hislop pam nad yw ei sylwadau dibwys am aflonyddu rhywiol yn dderbyniol yn rhywbeth rwy'n ei argymell i'r Siambr gyfan. Mae'n werth ailedrych arno. Fe ddywedodd hynny'n rymus iawn a hyn ydoedd yn syml: gallai patrwm o ymddygiad ymddangos yn ddibwys ar y cychwyn, ond gall gronni hyd nes ei fod yn tanseilio'r person sy'n dioddef yr ymddygiad hwnnw yn llwyr. A hyd nes y deallwn fod y gyfres o bethau dibwys yn arwain at y pwynt hwnnw lle y cânt eu tanseilio, yna nid oes gennym unrhyw synnwyr o sut brofiad y gallai hwnnw fod. Amlygwyd hyn gan Siân Gwenllian, a'r holl fenywod a siaradodd mewn gwirionedd: heb leisiau menywod i wneud hynny'n glir, ni chaiff y pethau hynny eu deall, a dyna pam rydym yn bwysig. Mae'n bwysig ein bod ni yma.
Ceir pentwr cyfan o agendâu eraill sy'n bwysig hefyd. Ceir llawer o 'faterion menywod' mewn dyfynodau ac mae wedi fy ngwylltio ar hyd fy oes eu bod yn 'faterion menywod'. Mae fy mhlant yn perthyn i fy mhartner lawn cymaint ag y maent yn perthyn i mi. Mae gofal plant yn llawn cymaint o fater iddo ef ag y mae i mi. Mae hynny yr un fath ar gyfer pob un o'r hawliau hynny: maent yn faterion ar gyfer pob bod dynol. Nid yw'r ffaith mai menywod sy'n ysgwyddo'r beichiau hynny yn iawn ac mae angen inni wneud rhywbeth ynglŷn â hynny. Dyna pam y mae ein lleisiau'n bwysig o ran cael y rheolau hynny ar waith a'r ddeddfwriaeth ar waith sy'n galluogi pobl i gymryd eu lle cywir yn ein cymdeithas.
Felly, rwy'n hollol benderfynol, yn ystod y tymor Cynulliad hwn, o weld pob bwrdd cyhoeddus a noddir gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys cynrychiolaeth 50:50. Dechreuodd fy nghyd-Aelod, Lesley, yma, y frwydr dros hynny, a llawer o gyd-Aelodau eraill—gwnaeth Jane hynny ei hun pan oedd yn y Llywodraeth, ac rwy'n siŵr y bydd cyd-Aelodau eraill yn gwneud hynny hefyd. Ond rwy'n dweud y byddwn yn gwneud hynny yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Nid oes unrhyw reswm pam na allwn ei wneud. Fe allwn wneud hynny. Mae gennyf Chwarae Teg yn gweithio arno ar hyn o bryd.