Arian Cyfalaf

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:35, 24 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, mae'r cynnydd yn y costau yn deillio'n bennaf o'r ffaith bod £136 miliwn ychwanegol wedi ei ddyrannu i ateb pryderon ynglŷn â'r porthladd yng Nghasnewydd, ac mae hynny, mae'n debyg, fel Ysgrifennydd y Cabinet, yn rhywbeth rydych wedi'i gymeradwyo, neu wedi cytuno iddo o leiaf. Nawr, rydych wedi sôn am yr arian sydd gennych yn y gyllideb y flwyddyn nesaf. Fel rwy'n deall, mae gennych £150 miliwn mewn cronfeydd cyfalaf a'r gallu i fenthyca £125 miliwn arall, felly mae hynny'n gwneud cyfanswm o £275 miliwn y gellid ei ddefnyddio y flwyddyn nesaf fel arian cyfalaf tuag at yr M4 newydd, fel y dylem ei galw. A allwch chi gadarnhau nad ydych yn gallu, ac na fyddwch yn ceisio, gwario'r arian hwnnw hyd nes y bydd yr ymchwiliad cyhoeddus wedi adrodd, ie, ond hefyd hyd nes y bydd pleidlais wedi bod ar gyllideb atodol yn y Cynulliad hwn?