Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:47, 24 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, Lywydd, ceisiais ddweud yn gynharach nad fy nghyfrifoldeb i yw gwneud y penderfyniadau polisi mewn perthynas â ffordd liniaru'r M4. Fy nghyfrifoldeb i yw rheoli'r gyllideb a gwneud yn siŵr bod arian ar gael i fynd ar drywydd blaenoriaethau allweddol. Yn yr achos hwn, mae'r M4 newydd yn cael ei hystyried drwy ymchwiliad lleol annibynnol, a hyd nes y bydd yr ymchwiliad hwnnw'n adrodd ni fyddaf yn gwneud dyraniadau uniongyrchol, oherwydd bydd yr angen am ddyraniadau yn dibynnu ar gasgliadau'r ymchwiliad.