Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 24 Ionawr 2018.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rydym yn disgwyl gyda diddordeb i weld penderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet ar y rhestr fer ar gyfer trethi newydd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir, ond a yw'n cytuno â mi, er na fydd unrhyw dreth yn boblogaidd byth, y bydd yn fwy derbyniol i'r cyhoedd os gallant wneud cysylltiad rhwng y costau y byddant yn eu talu â'r manteision y byddant yn eu cael? Mae rhai o'r trethi hyn, wrth gwrs, yn ymgorffori'r egwyddor honno'n well nag eraill. O ystyried y pwysau ar wariant cyhoeddus a'r cynnydd anochel yn y costau a welir ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn y blynyddoedd i ddod, gellid hyrwyddo'r cynnig am ardoll gofal cymdeithasol, cyhyd â bod y cynllun sy'n mynd law yn llaw â'r dreth yn un synhwyrol, mewn ffordd sy'n manteisio i'r eithaf ar y gefnogaeth gyhoeddus i dreth.