Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 24 Ionawr 2018.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet, fel finnau, yn fythol ifanc—rydym yn gweld y gorwel yn mynd yn bellach oddi wrthym wrth i ni fynd yn hŷn—ond rwy'n derbyn y pwynt cyffredinol y mae'n ei wneud. O gofio bod costau gofal cymdeithasol oedolion, yn ôl rhagfynegiadau'r Sefydliad Iechyd, yn debygol o godi 4 y cant bob blwyddyn am yr 20 mlynedd nesaf, a bod costau'n debygol o godi i tua £2.5 biliwn erbyn 2030, mae'n amlwg y gallai hon fod yn broblem ariannu enfawr i Lywodraeth Cymru. Ac felly mae'n hanfodol, yn fy marn i, os bydd ardoll o'r fath, ein bod yn creu cronfa nad yw Llywodraethau'n gallu ei hysbeilio at ddibenion eraill. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cofio Deddf Yswiriant Gwladol 1911—nid cofio am ei fod yno ar y pryd, ond oherwydd ei fod wedi astudio hanes—a sail gyfan y cynllun hwnnw, a greodd yswiriant gwladol ym Mhrydain, oedd i greu cronfa yswiriant gwladol. Yn anffodus, mae'r gronfa honno wedi cael ei hysbeilio gan y Trysorlys yn rheolaidd ers hynny ac mae'r holl egwyddor o gyfrannu wedi cael ei thanseilio gan Lywodraethau Ceidwadol yn ogystal â Llywodraethau Llafur dros y blynyddoedd, ac mae hynny, rwy'n credu, wedi anffurfio'r modd y caiff yswiriant cymdeithasol ei ariannu yn y wlad hon yn barhaol, a byddai'n llawer gwell pe baem yn neilltuo arian at ddiben penodol. Gwn fod llaw farw'r Trysorlys wedi atal hyn yn San Steffan, ond rwy'n gobeithio, o ganlyniad i ddatganoli, y bydd Llywodraeth Cymru yn fwy goleuedig wrth ystyried y materion hyn.