Metro De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:15, 24 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn ymwybodol, wrth gwrs, y bydd y modd yr ariennir prosiectau seilwaith mawr yn cael ei effeithio'n andwyol gan yr ansicrwydd dros gyllid Brexit y byddem wedi'i ddisgwyl o ran cronfeydd strwythurol, a hefyd materion fel mynediad at Fanc Buddsoddi Ewrop a ffynonellau tebyg. Pa gamau a gymerwyd i ddod o hyd i ffynonellau cyllid amgen, a pha gamau mwy hirdymor a gymerwyd ar gyfer ariannu'r prosiect metro yn y tymor hwy, prosiect yr amcangyfrifwyd yn wreiddiol y byddai'n costio tua £3 biliwn?