Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 24 Ionawr 2018.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn falch iawn mewn gwirionedd o weld bod eich cyllideb yn cynnwys £1.3 miliwn i awdurdodau lleol ei ddefnyddio er mwyn darparu cymorth wedi'i dargedu i gefnogi ein busnesau lleol. Fodd bynnag, llwyddodd y cynllun tebyg yn 2014-15, a ddylai fod wedi darparu cymorth tebyg i'n busnesau, i gefnogi rhai busnesau mewn gwirionedd, ar gost o £2.765 miliwn, ac eto nid yw hwn ond yn 79 y cant o ddefnydd ar y pecyn cyffredinol o £3.5 miliwn. Dywedir mai'r rheswm am hyn oedd cymhlethdod y canllawiau i'r busnesau anghenus hyn ynghyd ag amserlenni tynn ar gyfer gwneud cais. Wrth symud ymlaen y flwyddyn hon, sut y byddwch yn sicrhau y bydd yr amserlenni sy'n caniatáu i awdurdodau lleol a busnesau wneud cais am y grantiau hynny yn rhesymol fel y gallwn weld 100 y cant o ddefnydd o'r arian hwn, a ddyrannwyd yn benodol ar gyfer busnesau sydd mewn angen?