Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 24 Ionawr 2018.
Credaf fod y sylwadau a wnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn eithaf syfrdanol, mewn gwirionedd. Yn amlwg, nid yw cydraddoldeb priodas yr un peth â chysylltedd band eang mewn unrhyw fodd. Yn amlwg, mae bod yn aelod o'r gymuned LGBT+ yn nodwedd warchodedig a dylid ei thrin mewn modd sensitif fel y cyfryw.
Nid yw cydraddoldeb priodas yng Ngogledd Iwerddon yn fater ar gyfer y Llywodraeth ddatganoledig hon wrth gwrs, ond mae cymharu'r peth â chyflwyno seilwaith yn amlwg yn ansensitif iawn ac nid yw'n rhywbeth y byddem yn dymuno ei weld o dan unrhyw amgylchiadau.