Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 24 Ionawr 2018.
Diolch i chi, arweinydd y tŷ. Ym mis Medi y llynedd, cefais fy nghalonogi gan ymateb Carl Sargeant i mi ynglŷn â chreu cofrestr troseddwyr trais domestig. Roedd Carl yn ymgyrchydd brwd ac yn hyrwyddo gwaith i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod. Mae'r ystadegau ar gam-drin domestig yn llwm: amcangyfrifir bod mwy na 75 y cant ohonom yn adnabod rhywun sy'n dioddef trais domestig, mae un o bob pump o fenywod yn cael eu stelcio, mae un o bob pedair yn dioddef ymosodiad rhywiol neu'n cael eu treisio, mae un o bob pedair yn dioddef cam-drin domestig, mae 10 o fenywod yn cyflawni hunanladdiad o ganlyniad i gam-drin bob wythnos, ac mae dwy fenyw yr wythnos yn y DU yn cael eu llofruddio gan y sawl sy'n eu cam-drin.
Ers y tro diwethaf i mi godi'r mater hwn yn y Siambr, mae'r adroddiad blynyddol cyntaf a oedd yn ofynnol o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 wedi cael ei gyhoeddi, ac un amcan a nodwyd yn y Ddeddf yw ffocws cynyddol ar ddwyn troseddwyr i gyfrif. Pa asesiad a wnaethoch o fanteision cofrestr o droseddwyr trais domestig a pha fecanweithiau eraill a allai chwarae rhan hollbwysig er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu rhwng sefydliadau ac unigolion i ddiogelu ac atal troseddwyr trais domestig rhag aildroseddu?