Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 24 Ionawr 2018.
Wel, yn amlwg, gall mesurau fel y rhain, a rhaglenni cyn carchar i droseddwyr, gyfrannu at yr agenda atal ac ymyrraeth gynnar. Mae Cymorth i Fenywod Cymru wedi pwysleisio pwysigrwydd buddsoddiad ariannol gan fyrddau iechyd ac arweinwyr iechyd cyhoeddus rhanbarthol mewn atal ac ymyrraeth gynnar, o ystyried y gost yn y pen draw i'r GIG pan fydd cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi digwydd. Fodd bynnag, ym mis Rhagfyr, daethant ataf i leisio pryderon, er eu bod wedi derbyn dros £355,000 gan adran iechyd a gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn 2016-17 tuag at wasanaethau arbenigol ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, fod y ffigur hwnnw wedi gostwng i ychydig dros £34,000 yn 2017-18, ac maent yn deall bod Llywodraeth Cymru wedi trosglwyddo'r arian i fyrddau iechyd rhanbarthol ei ddyrannu yn lle hynny, ond maent yn dweud nad yw hynny wedi digwydd, ac mae'r cyllid wedi'i golli i'r sector arbenigol.
Sut, felly, rydych yn ymateb i'r pryder a fynegwyd yn y llythyr a anfonwyd atoch gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar 11 Ionawr, sy'n nodi bod ymateb Llywodraeth Cymru i'w hadroddiad yn 2016 ar weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn dweud y byddai canllawiau'n cael eu cyhoeddi mewn perthynas â strategaethau lleol ym mis Gorffennaf 2017, ond ymddengys nad yw hwn wedi cael ei gyhoeddi? Ac yn olaf, mewn perthynas â chraffu ar ôl deddfu, ymddengys nad yw strategaeth llesiant Caerdydd a'r Fro yn sôn gair am gam-drin domestig neu rywiol a sut i fynd i'r afael ag ef, na strategaeth Betsi Cadwaladr ar gyfer y dyfodol, ac nid yw cynllun strategaeth Hywel Dda ond yn sôn am gam-drin domestig mewn perthynas â digartrefedd, ac nid yw'n sôn am Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, na sut y mae'r bwrdd iechyd yn bwriadu gweithredu ei nodau.