Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 24 Ionawr 2018.
Mae Andrew R.T. Davies yn codi pwynt hynod o bwysig. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau manwl ynglŷn â hynny. Rwyf wedi cael llawer o drafodaethau ynglŷn â chyrsiau Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill, a sicrhau bod gan bobl sy'n dod i fyw yma yng Nghymru fynediad at addysg Saesneg fel iaith ychwanegol.
Mae cael y sgwrs honno ar fy agenda. Rwy'n ymwybodol iawn, hefyd, gan fy mod yn cynrychioli canol Abertawe—felly, cyfansoddiad ethnig tebyg iawn—a bydd hyn yn berthnasol i'r rheini ohonom sy'n dod o Gymru, fod gennym nifer fawr o bobl yng Nghymru sy'n siarad ail iaith eu gwlad yn hytrach na'r brif iaith. Felly, mae gennym broblem benodol yn y gwasanaethau cyfieithu o ran sicrhau bod pobl nad ydynt yn siarad prif iaith eu gwlad, ond sy'n siarad ail iaith, hefyd yn cael eu gwasanaethu gan hynny. Rwy'n cael sgwrs gynhwysol iawn gydag amryw o bobl yn fy etholaeth ynglŷn â'r ffordd orau o ddarparu ar gyfer hynny, ac rwy'n bwriadu gwneud defnydd o'r profiadau hynny yn y rôl hon pan fyddaf yn cael y sgyrsiau rwyf i fod i'w cael cyn bo hir.