Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 24 Ionawr 2018.
Ac rwy'n cytuno'n llwyr. Yr hyn rydym wedi'i wneud yw edrych i weld sut y gallwn reoli ein cyllideb ein hunain yn y maes hwn, sy'n mynd yn llai ac yn llai—o ganlyniad i bolisïau cyni Llywodraeth bresennol y DU—er mwyn gwneud y gorau o hynny. Rydym yn gwneud hynny drwy gynyddu hyblygrwydd ein partneriaid gwasanaethau lleol i ddefnyddio eu grant mewn ffyrdd mwy creadigol ac i gydweithio'n well ar raddfa ranbarthol. Rydym yn ariannu'r cydgysylltwyr rhanbarthol yn benodol er mwyn eu galluogi i wneud hynny. Rwy'n deall pryderon y sefydliadau yn iawn, gan gynnwys Cymorth i Fenywod Cymru, sy'n darparu'r llochesau. Byddwn yn gweithio'n galed iawn gyda phartneriaid lleol i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'r arian sydd ar gael inni.