Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 24 Ionawr 2018.
Diolch am eich ateb, arweinydd y tŷ, ac rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith sy'n mynd rhagddo eisoes, ond gallai gael ei ddad-wneud os nad ydym yn ofalus. Yn amlwg, mae cynhwysiant digidol yn cynnwys cyfeiriad at hygyrchedd, ac mae hygyrchedd yn ymwneud â dau beth. Un yw seilwaith, ac rydych eisoes wedi ateb cwestiynau ynglŷn â hynny, felly nid wyf am sôn am hynny ar hyn o bryd. Y llall yw hygyrchedd y dechnoleg. Yn aml iawn, yn ein cymunedau difreintiedig, cyflawnwyd hynny drwy ganolfannau cymunedol a llyfrgelloedd. Mae llawer o'r gwasanaethau cyhoeddus hynny, o ganlyniad i ideoleg cyni Llywodraeth Doraidd San Steffan, bellach o dan fygythiad neu wedi diflannu, neu rai, efallai, wedi eu trosglwyddo i ofal y cymunedau, gyda'u horiau agor wedi crebachu o ganlyniad.
Felly, beth a wnewch i sicrhau bod pobl yn y cymunedau hyn yn gallu cael mynediad at y dechnoleg fel y gellir eu cynnwys, fel y gallant ennill sgiliau? Oherwydd mae popeth yn symud tuag at dechnoleg ddigidol, ac os na allwn gynnig y gallu iddynt fynd i rywle a chael mynediad, rydym yn gwneud cam â'r bobl hynny.